Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 11 Gorffennaf 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 12:26 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_300000_11_07_2013&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman (Cadeirydd) Leighton Andrews Peter Black Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Jenny Rathbone Rhodri Glyn Thomas Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Paul Bogle, National Federation of Builders Wales Limited Ian Davies, Pennaeth Gweithrediadau’r Rhwydwaith, Llywodraeth Cymru Rhys Davies Keith Edwards, Cyfarwyddwr, Chartered Institute of Housing Cymru Richard Jenkins, Director, Federation of Master Builders Wales Richard Price, Planning and Policy Advisor, Wales, Home Builders Federation Wyn Price, Llywodraeth Cymru Claire Rooks, Llywodraeth Cymru Julie Nicholas, Chartered Institute of Housing Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Marc Wyn Jones (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau.
2 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer darpariaethau sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, Gorchmynion Ymddygiad Troseddol a’r Trothwy Cymunedol
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:
Gohebiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i chael gyda'r Ysgrifennydd Cartref ynghylch yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda phlant a phobl ifanc mewn perthynas â'r Bil.
Nodyn am y ffrwd ariannu ar gyfer cyfiawnder adferol.
Yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol a gynhyrchwyd ar gyfer y Bil.
3 Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ffederasiwn Cenedlaethol yr Adeiladwyr, Cymru, Cyf., Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr, Cymru a Ffederasiwn yr Adeiladwyr Cartrefi.
4 Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru. Cytunodd y Sefydliad i ddarparu linc i adroddiad ar gartrefi cydweithredol.
5 Ymchwiliad i’r rhwystrau i adeiladu cartrefi yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fforest Timber Engineering Limited ac INTEGRA.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
7 Ymchwiliad i Addasiadau yn y Cartref – trafod yr adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft.
8 Blaenraglen waith y Pwyllgor - Cylch gorchwyl drafft
Yn amodol ar wneud rhai man newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad i gydweithredu.
9 Papurau i'w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
9.1 Tystiolaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru - Data am nofio mewn ysgolion 2012 - yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin 2013
9.2 Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas â deisebau sy'n ymwneud â threftadaeth
9.3 Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth Stuart Williams, Undeb Cenedlaethol yr Athrawon - yn dilyn cyfarfod 27 Mehefin 2013
9.4 Rhagor o wybodaeth oddi wrth Simon Jones, Chwaraeon Cymru - yn dilyn y cyfarfod ar 19 Mehefin 2013